Orlando Bloom
Orlando Bloom | |
---|---|
Ffugenw | Orlando Bloom |
Geni | Siwan Morris 13 Ionawr, 1977 Caergaint, Swydd Gaint, Lloegr |
Galwedigaeth | Actor |
Gwaith nodedig | The Lord of the Rings: The Return of The King, Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest |
Actor yw Orlando Bloom (ganed 13 Ionawr 1977). Daeth i'r amlwg am y tro cyntaf yn 2001, fel tywysog y coblynnod, Legolas yn y ffilmiau The Lord of the Rings ac fel y gof Will Turner yn y ffilmiau Pirates of the Caribbean. Yn ddiweddarach, ymddangosodd fel y prif gymeriad mewn nifer o ffilmiau Hollywood fel Troy, Elizabethtown a Kingdom of Heaven. Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn
Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest a Pirates of the Caribbean: At World's End. Mae ef hefyd yn serennu yn y ffilm New York, I Love You a Sympathy for Delicious. Perfformiodd Bloom yn broffesiynol ar lwyfan yn "In Celebration" yn Theatr Dug Caerefrog, Lon San Martin, tan ddiwedd y cynhyrchiad ar y 15fed o Fedi 2007.
Ei fywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Orlando Bloom yng Nghaergaint, Swydd Gaint, Lloegr. Ganwyd ei fam, Sonia Constance Josephine (née Copeland), yn yr adran Brydeinig o Kolkata, India, yn ferch i Betty Constance Josephine Walker a Francis John Copeland, a oedd yn feddyg ac yn llawfeddyg. Ar ochr ei fam, mae Bloom yn gefnder i'r ffotograffydd Sebastian Copeland. Trigai teulu mamgu Bloom ar ochr ei fam yn Tasmania, Awstralia a'r India, ac roeddent o dras Seisnig, gyda rhai ohonynt yn dod o Swydd Gaint yn wreiddiol.
Yn ystod ei blentyndod, dywedwyd wrth Bloom mai ei dad oedd gwr ei fam, y nofelydd gwrth-apartheid Iddewig a anwyd yn Ne Affrica Harry Saul Bloom; fodd bynnag, pan oedd yn dair ar ddeg (naw mlynedd ar ôl marwolaeth Harry), esboniodd mam Bloom wrtho mai ei dad biolegol oedd Colin Stone, partner ei fam a ffrind i'r teulu. Gwnaed Stone, pennaeth ysgol iaith Concorde International, yn warcheidwad cyfreithiol ar Bloom pan fu farw Harry Bloom. Mae gan Bloom, a enwyd ar ôl y cyfansoddwr o'r 16g Orlando Gibbons, un chwaer, Samantha Bloom, a anwyd ym 1975.
Magwyd Bloom yn Eglwys Lloegr. Fel plentyn llwyddodd Orlando i oroesi yn Ysgol y Brenin Caergaint ac Ysgol San Edmund yng Nghaergaint er gwaethaf ei ddyslecsia. Cafodd ei annog gan ei fam i gymryd rhan mewn dosbarthiadau celf a drama. Ym 1993, symudodd i Lundain er mwyn dilyn cwrs dwy flynedd Lefel A yn Nrama, Ffotograffiaeth a Cherflunio yng Ngholeg y Celfyddydau Cain, Hampstead. Yna, ymunodd â'r Theatr Ieuenctid Isa, gan dreulio dau dymor yno, gan ennill ysgoloriaeth i hyfforddi yn yr Academi Ddrama Americanaidd Brydeinig. Dechreuodd Bloom actio'n broffesiynol gyda rôlau mewn cyfresi teledu fel Casualty a Midsomer Murders, cyn iddo fentro i fyd ffilmiau lle serennod yn ei ffilm gyntaf Wilde (1997), gyda Stephen Fry. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i Ysgol Gerdd a Drama Guildhall yn Llundain, lle astudiodd actio.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]